Llyfrgell ddata

Canolfan data Utah, UDA, a adnabyddir hefyd dan yr enw llawn: Intelligence Community Comprehensive National Cybersecurity Initiative Data Center.
Archifdy Data Prifysgol Essex

Mae llyfrgell ddata, archif data, neu ystorfa ddata yn gasgliad o setiau data ar gyfer defnydd eilaidd mewn ymchwil. Fel rheol, mae'r llyfrgell ddata'n rhan o sefydliad academaidd, corfforaethol, gwyddonol, meddygol, llywodraethol, ac ati, a sefydlwyd ar gyfer archifo data ymchwil ac i wasanaethu defnyddwyr y sefydliad hwnnw.

Mae'r llyfrgell ddata'n tueddu i gadw casgliadau data lleol ac yn darparu mynediad iddynt trwy wahanol ddulliau: CD- a DVD-ROMiau yn y gorffennol, gweinydd canolog lawrlwytho'r wybodaeth, erbyn y 2010au. Gall llyfrgell ddata hefyd danysgrifio i adnoddau data trwyddedig, global i'w hymchwilwyr eu defnyddio. Ystyrir y llyfrgell ddata hefyd yn archif data os yw'n cyrraedd y meincnodau canlynol:

  • mae daliadau'r casgliad yn unigryw,
  • cynigir gwasanaethau cadwraeth hirdymor, ac
  • mae'n gwasanaethu cymuned ehangach (fel y mae archifau data cenedlaethol yn ei wneud).

Rhestrir y rhan fwyaf o lyfrgelloedd data cyhoeddus ar Gofrestrfa Ystorfeydd Ymchwilio Data.

Yn Awst 2001, cadarnhawyd pwysigrwydd archifo data pan gyhoeddodd Cymdeithas Lyfrgelloedd Ymchwil (Association of Research Libraries (ARL)) bapur SPEC Kit 263: Numeric Data Products and Services Archifwyd 2006-12-08 yn y Peiriant Wayback, sef canfyddiadau arolwg i gyd-sefydliadau (aelodau o'r ARL), am eu gwaith yn casglu, cadw, cynnig gwasanaethau am eu hadnoddau data. Ystyrir y papur hwn yn garreg filltir hanesyddol o fewn y maes.


From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Tubidy